BETH SY MLAEN
MATT THE MAGIC MAN
Rhannwch Funudau Hud Matt
Fyddwch chi ddim yn coelio’ch llygaid wrth weld Matt y Dyn Hud yn perfformio’i swyn cyfareddol, heb sôn am ei sgiliau syrcas rhyfeddol.
Ymunwch ag ef bob dydd yn y Ffatri Hud i weld ei sioe swyn anhygoel. Dysgwch gan y meistr yn ei weithdy sgiliau syrcas, a gwyliwch ef yn dod â Punch a Judy’n fyw mewn sioe newydd ddoniol dros ben.
Chwiliwch amdano yn y parc hefyd – efallai bydd ar frig rhyw goeden ar ei stiltiau neu’n plygu balwnau i greu siapau anhygoel, yn arbennig i chi.
Un funud bydd i’w weld, yr eiliad nesaf bydd wedi diflannu!
Mae Matt yn diflannu bob dydd Llun a dydd Mawrth i orffwys ei Ffon Hud, ond bydd yn ailymddangos yn y Ffatri Hud o ddydd Mercher i ddydd Sul.
AMSERAU’R SIOEAU
Y PRIF DYMOR
AR ÔL IDDI DYWYLLU
Sioeau Hud
11.30am a 3.30 pm
Punch & Judy
2.45pm
Gweithdy Sgiliau Syrcas
1.40pm
Gwelais i Matt y Dyn Hud y llynedd, ac roedd fy mab pum mlwydd oed wrth ei fodd. Roedd rhaid i ni ddod nôl ar ddiwrnod pan fyddai e yma, er mwyn ei weld. Ardderchog!
Sandra McCarthy
SWYDD CORC
Iwerddon
AR ÔL IDDI DYWYLLU
Mae’r hwyl yn dechrau wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben!
O ddydd Gwener 1 Awst tan ddydd Sul 31 Awst 2008, bydd Oakwood ar agor ar ôl iddi dywyllu ar gyfer sioe haf ysgubol, bob noson o'r bron!
Ymunwch â ni i brofi gwefr ein reidiau byd-enwog yn y nos. Cewch hefyd gyfle i brofi adloniant teuluol o’r radd flaenaf, y tu allan ac o dan do. Cewch wefr wrth i’r parti gyrraedd ei anterth ar y llwyfan awyr agored, gyda’n ffynhonnell ddwr hudol a’r arddangosfa oleuadau. Ar ôl y sioe, byddwn yn goleuo’r nos â thân gwyllt ysblennydd: diweddglo perffaith ar gyfer noson wych.
Mae nosweithiau Ar ôl iddi Dywyllu am ddim gyda’ch tocyn mynediad i Oakwood.
NEU gallwch ymuno â ni gyda’r hwyr o 5.30pm ymlaen am £10 y pen yn unig.
AR ÔL IDDI DYWYLLU BOB DYDD YM MIS AWST
DEWCH I BROFI REIDIAU OAKWOOD YN Y NOS
SIOEAU BYW, AC ADLONIANT GWYCH
Roedd y sioe Ar ôl iddi Dywyllu’n dda dros ben, ac yn gymaint o ymdrech fel bod y dawnswyr wedi ei fwynhau lawn cymaint â ni. Roedd y tân gwyllt yn wych, felly gallaf eich sicrhau ei bod yn noson ardderchog
Ms P Jones
CASTELL-NEDD
Gorllewin Morgannwg
|